BBC Home
Explore the BBC
BBC Trust

Fframwaith Rheoleiddio.

Mae'r Siarter a'r Cytundeb yn gofyn bod Ymddiriedolaeth y BBC a'r BBC yn cyhoeddi amrywiaeth o ddogfennau sy'n egluro ei ddiben, nodi ei bolisïau a'i flaenoriaethau, a disgrifio cylchoedd gwaith ei wasanaethau.


Prawf Gwerth Cyhoeddus


Os bydd y rheolwyr yn cynnig lansio gwasanaeth newydd neu wneud newidiadau sylweddol i wasanaeth cyfredol, bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn ystyried y cynnig ac yn penderfynu a oes angen lansio Prawf Gwerth Cyhoeddus. Os cynhelir Prawf Gwerth Cyhoeddus, mae'n bosibl na fydd y gwasanaeth neu'r newid newydd hwnnw yn digwydd hyd nes bydd y broses wedi'i chwblhau.

Cefndir

Mae'r Siarter yn nodi'n glir y dylai'r BBC allu newid ei wasanaethau cyhoeddus yn y DU - er enghraifft, ymateb i newidiadau ym maes technoleg, diwylliant, cyflwr y farchnad, disgwyliadau'r cyhoedd, ac ati.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i unrhyw rai o gynigion sylweddol rheolwyr y BBC ar gyfer newid fod yn destun archwiliad llawn a chyhoeddus. Mae hyn yn golygu yr ymgymerir ag archwiliad ar ffurf Prawf Gwerth Cyhoeddus.

Mae manylion cynigion cyfredol sy''n cael eu hystyried i'w gweld ar y safle hwn.

Brig

Prawf Gwerth Cyhoeddus

Mae'r Prawf Gwerth Cyhoeddus yn ffordd o bwysoli gwerth cyhoeddus yn erbyn yr effaith ar y farchnad.

Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn ei ddefnyddio i bennu gwerth gwasanaeth BBC newydd i'r cyhoedd, dyweder, ac i gyfrifyddu'i effaith ar y farchnad ehangach - er enghraifft, gallai lansiad arfaethedig y BBC effeithio ar fusnes cyflenwyr eraill.

Dim ond os bydd yr Ymddiriedolaeth yn fodlon y bydd unrhyw effaith niweidiol ar y farchnad yn medru ei gyfiawnhau o ganlyniad i’r gwerth cyhoeddus cadarnhaol a grëir gan y newid y caiff y cynnig ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad. Ar ddiwedd yr ymgynghoriad, bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn gwneud penderfyniad.

Brig

Sut mae'r Prawf Gwerth Cyhoeddus yn gweithio

Mae i'r Prawf Gwerth Cyhoeddus ddwy elfen asesiad gwerth cyhoeddus, ac asesiad effaith ar y farchnad.

Asesiad gwerth cyhoeddus

Mae asesiad gwerth cyhoeddus o newid arfaethedig yn cynnwys asesu:

Cynhelir yr asesiadau gwerth cyhoeddus gan yr Ymddiriedolaeth, gyda chefnogaeth Uned yr Ymddiriedolaeth, sef yr uned annibynnol sy'n cynghori'r Ymddiriedolwyr. Fel rhan o'r asesiad, mae'r Ymddiriedolaeth yn ceisio sylwadau ar agweddau gwerth cyhoeddus y cynnig.

Brig

Asesiad effaith ar y farchnad

Cynhelir asesiadau effaith y farchnad gan Ofcom, dan oruchwyliaeth Grŵp Llywio ar y Cyd sydd â chynrychiolaeth gytbwys gan Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom.

Y Grŵp Llywio ar y Cyd sy’n pennu'r cylch gorchwyl ac yn cytuno ar y fethodoleg ar gyfer pob asesiad, gan ystyried maint a chwmpas y newid arfaethedig.

Fel rhan o'r asesiad, mae Ofcom yn ceisio sylwadau ar y cynnig o safbwynt effaith ar y farchnad.

Brig

Amserlen

Fel arfer, mae'n rhaid cwblhau Prawf Gwerth Cyhoeddus o fewn chwe mis i'r dyddiad y bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn penderfynu y dylid ei gymhwyso a chyhoeddi hysbysiad i'r perwyl hwnnw. Gall yr Ymddiriedolaeth ganiatáu cyfnod yn hirach os bydd amgylchiadau'n cyfiawnhau hynny.

Mae'n rhaid i asesiadau effaith ar y farchnad gael eu cwblhau o fewn tri mis i'r dyddiad y bydd y Grŵp Llywio ar y Cyd yn pennu'r cylch gorchwyl. Gall y Grŵp Llywio ar y Cyd ganiatáu amser hirach os yw’r amgylchiadau yn cyfiawnhau hynny.

Public Value Test Process

Brig

Crynodeb

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cyhoeddi Canllawiau ar gynnal y broses Profion Gwerth Cyhoeddus:

Brig

Protocol

Gallwch ddarllen mwy am y Prawf Gwerth Cyhoeddus yn y protocol perthnasol, sydd i'w weld ar dudalen y Protocolau.

Brig